uFurnish - The Home for Furniture Discovery

Similar products


Siop Dewi Wyn Siop Luniau Pwllheli/ Pwllheli Photo Shop Clustog Coeden Deulu Rhowch enwau'r bobl (ac anifeiliaid anwes!) pwysicaf i chi ar Glustog Coeden Deulu. Dyma'r glustog berffaith i ychwanegu lliw i unrhyw ystafell, byddai hefyd yn gwneud anrheg hyfryd a meddylgar i unrhyw achlysur - anrheg i neiniau a theidiau, Nadolig, pen-blwydd, Sul y Mamau, Sul y Tadau, cartref newydd ayb. Gallwch ychwanegu cyfenw teulu i'r gwaelod e.e. 'Teulu Jones', neu 'Teulu' neu 'Teulu Ni', neu unrhyw ddyfyniad arall e.e. 'Plant bach Nain a Taid', 'Cartref Clyd Ni', 'Teulu Perffaith Ni'. Mae'n bosib ychwanegu hyd at 10 enw i'r Goeden Deulu (noder po fwyaf o enwau ar y glustog, y lleiaf fydd maint y calonnau a'r enwau ar y glustog). Mae'r holl glustogau wedi'u cynllunio a'u gwneud llaw yn ein siop yng Ngogledd Cymru gan dm proffesiynol sydd dros 70 mlynedd o brofiad yn y busnes Ffotograffiaeth. Ar gael mewn tair steil o glustog: 1. Clustog Arferol Maint y glustog 16x16 (40x40cm), maint y dyluniad 12.75x12.75(32x32cm). 100% Polyester. Yn gallu argraffu ar un ochr neu'r ddwy ochr o'r glustog. Cau gyda sip ar y top. 2. Clustog Meddal Ar gael mewn dau faint - bach (10x10/25x25cm gyda maint dyluniad 8x8/20x20cm) neu mawr (16x16/40x40cm gyda maint dyluniad 12.75x12.75 (32x32cm). 100% Polyester gyda theimlad meddal a moethus. Ail ochr gwyn, pinc a glas (gellir argraffu ar un ochr neu'r ddwy ochr o'r glustog wen). Cau gyda sip ar y top. 3. Clustog Cynfas Maint y glustog 16x16 (40x40cm), maint y dyluniad 12.75x12.75(32x32cm). 100% Polyester gydag effaith cynfas. Yn gallu argraffu ar un ochr neu'r ddwy ochr o'r glustog. Cau gyda sip ar y top. Sut i bersonoli Nodwch yr enwau (hyd at 10), ysgrifen i waelod y goeden (e.e. Teulu Jones) a lliw i'r calonnau yn y blwch 'Personalisation', diolch! Cadwch mewn cof Gall lliwiau amrywio o'r hyn sydd yn ymddangos ar y sgrin oherwydd gosodiadau monitor cyfrifiadur a sut mae lliwiau yn trosglwyddo i'r defnydd yn ystod ein proses argraffu. Mae pob clustog yn cael ei wneud yn arbennig i'r cwsmer, ni allwn ddarparu ad-daliadau ar eitemau wedi'u personoli. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y wybodaeth rydych chi'n ei darparu yn gywir. Mae'n bosib golchi'r gorchudd clustog yn y Peiriant Golchi; - Tymheredd 30oc - Smwddio'r gorchudd tu mewn allan - Peidiwch 'i sychu mewn peiriant, cannu na'i sychlanhau. Gallwch weld gweddill o'n casgliad ar ein tudalen - https://www.etsy.com/uk/shop/DewiWynPwllheli Clustog Coeden Deulu - Teulu Personol Cartref Cymraeg Welsh Gift

colours

White

materials

Pillow
Estimated Delivery:

Latest delivery information available on the retailer website here.

New to uFurnish.com?

Did you know uFurnish.com looks inside 100+ retailers for you?

See our retailer partners...